Rydyn yn gwmni ffasiwn bychan wedi’i leoli yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin.
Rydyn ni yn Pethau Olyv yn stocio dewis eang o ddillad ffasiwn o ansawdd uchel mewn meintiau 8-22, gan ddetholiad o gyflenwyr gan gynnwys That’s Me, Femme, Robell, Frank Lyman, Goose Island, Bamboowardrobe, Saloos, Cream, Claudia C ac Peach accessories . Yn y siop gallwch weld yr ystod gyflawn sydd ar gael a trio arno cyn prynu.
I gyd-fynd â’r dillad, mae gennym ystod eang o ategolion, bagiau llaw, menig, hetiau, sgarffiau a gemwaith i gwblhau’ch gwisg.
Beth am alw i mewn a gweld ein dewis rhoddion a dewis cardiau sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Yn olaf i gwblhau eich profiad rydym yn gwerthu te, coffi a chacen, hyn i gyd mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar gyda’n merched wrth law i gynnig unrhyw gymorth sydd ei angen.
Mae’r eitemau ar gael mewn rhai gwestyau. Rydym hefyd yn mynychu sioeau, ffeiriau crefft, nosweithiau merched (h.y. sioeau ffasiwn), a digwyddiadau elusennol. Rydym yn darparu profiad unigryw i gwsmeriaid. Rydym hefyd yn croesawu grwpiau o ferched trwy drefniant ymlaen llaw i ddod i’r siop.
Rydym yn cael y bagiau a’r eitemau eraill oddiwrth cwmnioedd o Brydain. Mae ein cwsmeriaid yn hoffi pethau gwahanol ac unigryw a dyna beth rydym yn ymdrechu ato.
Amdano ni
Dechreuodd Olive a Yvonne y busnes yn 2012. Ni wedi bod yn ffrindiau oddi ar 1978. Gwnaethom gyfarfod pan yn gweithio yn Ysbyty Dewi Sant, Caerfyrddin. Rydym wedi ymddeol fel nyrs seiciatrig. Mae Olive dal I fyw yn Trelech, Caerfyrddin ac Yvonne yn byw yn Caerfyrddin.